Y mae'n bwysig cydnabod y bydd nifer o blant a phobl ifanc wedi cael profiadau sydd ymhell y tu hwnt i'r hyn all y rhan fwyaf ohonom fyth ei ddychmygu. Byddan nhw wedi dod ar draws lefelau o drawma, camdrin ac esgeulustod sy'n eithriadol ac a fydd yn effeithio ar sut maen nhw'n canfod y byd, o bosibl drwy gydol eu bywydau. Ni allwn dynnu'r rhain i ffwrdd, ond po fwyaf y gallwn gefnogi PDG i ymdopi y mwyaf byddwn yn gwella eu cyfleoedd bywyd ac o gyflawni gwell deilliannau. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, y mae'n bwysig darparu trosolwg o'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd o faes niwro-wyddoniaeth a datblygiad yr ymennydd o ran effaith esgeuluso a thrawma. Caiff hyn ei ddilyn gan amlinelliad byr o ymagweddau cyfredol o fyd therapi a meddwl therapiwtig. Bydd y naill a'r llall yn helpu i ddeall plant sydd wedi cael eu niweidio ac i ddod o hyd i esboniadau am ymddygiad sydd yn wahanol, ac yn aml yn anodd, yn hytrach na gwneud tybiaethau fod y plentyn yn ymddwyn yn ddrwg. Nid yw'n fwriad i wneud oedolion sy'n gweithio mewn ysgolion yn therapyddion, ond yn hytrach, os oes lefel mwy o ddealltwriaeth ganddynt, byddant yn fwy abl ac yn fwy cymhellol i ddelio â'r heriau y byddant yn dod ar eu traws gyda PDG.

Y mae'n bwysig nodi fan hyn y gallai'r bennod hon sefyll fel llyfr ynddo'i hun gan fod yna beth wmbredd o lenyddiaeth a fyddai o ddiddordeb a pherthnasedd. Ar ddiwedd y bennod hon ac ar ddiwedd pennod pump rydym wedi rhestru nifer o lyfrau a gwefannau a fydd yn darparu gwybodaeth bellach a manylach i'r rheini sydd â diddordeb i ganfod rhagor.

YR YMENNYDD: EI DDATBLYGIAD AC EFFAITH PROFIADAU CYNNAR BYWYD

Organ gymhleth yw'r ymennydd. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, wrth i dechnoleg ddatblygu, mae ein dealltwriaeth o'r prosesau datblygiadol a'r anawsterau a allai ddigwydd wedi cynyddu ar raddfa eithriadol. Gwyddom lawer mwy bellach am yr effaith groes mae bywyd cynnar cythryblus neu drawma datblygiadol yn ei gael ar ddatblygiad ymennydd llawer o'n plant a'n pobl ifanc.

“Mae cydweddiad cyflyrau emosiynol yn hanfodol i'r ymennydd sy'n datblygu er mwyn iddo gaffael y capasiti i drefnu ei hun mewn modd mwy ymreoleithol wrth i'r plentyn aeddfedu.” (Siegel 2012)

Caiff stres mewn plant yr effaith fwyaf ar ddatblygiad yr ymennydd. Yr ymennydd yw prif organ stres achos mae'n rheoli'r holl fecanwaith stres. Mae plant sy'n profi cyfnodau hir a difrifol o stres yn meddu ar ymennydd llai o faint a llai datblygedig ac felly llai o swyddogaeth wybyddol. Gall y lefelau uwch o gortisol sy'n ganlyniad i stres gael effaith ar y gwahanol rannau o'r ymennydd, fel bod yr ymennydd yn datblygu ymatebion gwahanol fel plant yn gorymateb neu ddim yn ymateb ddigon i fygythiad.

Mae'n syndod canfod y gall datblygiad ymennydd baban gael ei effeithio’n wael gan brofiadau cynnar bywyd, hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. Os yw'r fam wedi profi lefelau uchel o ofn, pryder neu iselder yna gall strwythur ymennydd y baban fod yn wahanol iawn i un babanod eraill nad ydynt wedi'u hamlygu i'r un profiad.

 

Gall trawma barhau i effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd yn ystod dwy flynedd gyntaf bywyd. Hyd yn oed pan nad oes gennym gof ymwybodol o'n profiadau emosiynol, rydym yn eu storio yn ein hymennydd ac fe allant effeithio arnom wrth i ni dyfu a datblygu. Felly, er enghraifft, os yw baban ifanc yn cael ei anghenion wedi eu diwallu'n gyson gan ofalwyr sy'n ymateb iddynt ac yn gwneud yn siŵr nad ydynt yn llwgu, yn oer, na heb gariad, yna bydd ei ymennydd yn datblygu yn ôl yr hyn a ddisgwyliwn. Ond os yw baban yn crio ac un ai ddim yn cael help neu'n waeth fyth, yn cael ymateb bygythiol, camdriniol, yna mae'n dysgu'n gyflym iawn sut i rewi ac ymwahanu ei hun yn emosiynol. Yn y pen draw mae'r ymddygiad hwn yn ddwfn ynddo a gall plant rewi'n awtomatig wrth wynebu unrhyw fath o fygythiad Ar adegau gall plentyn ymateb fel hyn i sefyllfaoedd diniwed hyd yn oed gan ddatblygu i fod yn ddideimlad ac yn ddiymateb. Fodd bynnag, wrth i blant dyfu'n hyn, gall patrwm yr ymateb newid a gallant ddyfod yn dreisgar ac yn oractif, gan chwilio am gyffro trais neu risg.

Gall y problemau hyn barhau i'r arddegau. Wrth gyrraedd oed aeddfedrwydd, mae'r ymennydd yn ogystal â'r corff yn newid llawer. Dyma'r ail gyfnod mwyaf o dyfiant i'r ymennydd yn ystod bywyd. I lawer o bobl yn eu harddegau, mae hyn yn amlwg iawn yn y newidiadau yn eu hymddygiad a all fod yn danllyd ac yn heriol. Os yw'r person ifanc wedi cael profiadau emosiynol sy'n 'ddigon da' hyd at y pwynt hwn, yna mae datblygiad yr ymennydd yn gallu ymdopi gyda'r newidiadau hyn. Fodd bynnag, i'r rheini sydd eisoes wedi gorfod ymdopi gydag amgylchiadau anodd a heriol iawn, oni bai eu bod yn cael cefnogaeth sensitif iawn oddi wrth oedolion, yna bydd rhannau mwy ymatebol a thanllyd yr ymennydd yn tra-arglwyddiaethu dros y rhannau sy'n cyfranogi mewn rhesymu a gwneud penderfyniadau.

Felly mae hyn yn dweud wrthym fod y lefelau eithriadol o drawma y mae rhai plant yn ei brofi yn effeithio ar eu datblygiad emosiynol, cymdeithasol ac ar y ffordd maen nhw'n gallu rheoli eu hunain o'r cyfnod cynharaf posibl oherwydd yr effaith mae hyn wedi ei gael ar ddatblygiad yr ymennydd.

THEORI YMLYNIAD

Bydd llawer o'r plant a'r bobl ifanc sydd yn y system gofal yn profi anawsterau sylweddol â'r hyn a elwir yn 'ymlyniad' a 'pherthynas ymlyniad'. Mae dealltwriaeth o'r hyn ydy hyn, a sut mae'n effeithio ar blant, yn gallu helpu'r rhieni sy'n gweithio'n uniongyrchol â'n PDG i werthfawrogi ychydig am yr effaith ar eu dysgu a'u hymddygiad yn yr ysgol.

Beth yw ymlyniad?

Yn syml, system a ddatblygwyd drwy gydol esblygiad i'n cadw ni'n ddiogel yw ymlyniad. Caiff ei actifadu yn ystod cyfnodau o fygythiad (gwahanu, gwrthodiad neu ofn) a'r canlyniad yw bod y plentyn yn chwilio am gysur oddi wrth berson y mae'n ymddiried ynddo. Caiff ei gynnig ei fod yn rhan o natur plentyn i ffurfio perthynas ymlyniad a fydd yn sicrhau ei fod yn teimlo'n ddiogel, saff a'i ofalu amdano. Bwlb (1988) yw prif bleidiwr y theori hon ac mae'n diffinio ymlyniad fel a ganlyn:

‘Sail yw ymlyniad o ble y gall plentyn archwilio ei brofiadau a ffurfio cysyniadau o’i hun, eraill a’r byd’.

Caiff ymlyniad ei bennu gan natur y gofal y mae plentyn wedi ei dderbyn. Nod ymddygiad ymlyniad yw agosrwydd a chyswllt gyda'r hwn a alwn yn brif ofalwr, fel bod babi yn teimlo'n ddiogel ac mewn lleoliad saff ble y gall ddatblygu. Mae'r plentyn yn dysgu drwy'r ymateb y mae'r gofalwr yn eu rhoi iddo. Os yw'r plentyn yn cael yr ymateb mae ei eisiau wrth grio pan fydd yn llwglyd, ypset neu'n bryderus yna daw'r ymateb hwnnw i fod yn un y mae'n ei ddysgu. Mae'r oedolyn yn cydweddu â'i anghenion. Yn y pen draw mae teimladau yn cael eu 'hymatal' gan nad ydynt yn gorlethu'r plentyn. Mae cydweddu yn bwysig i blant achos mae'n eu helpu nhw i ymddiried a theimlo'n ddiogel yn y byd (Bion, 1962).

Mae plant sy'n cael y profiad o newid eu gofalwr dro ar ôl tro neu o ofal sy'n esgeuluso, yn niweidiol a/neu gamdriniol yn llawer mwy tebygol o gael anawsterau ymlyniad neu anhwylder ymlyniad.

Pam ydy hyn yn bwysig?

Mae plant sydd wedi datblygu ymlyniad diogel yn mynd yn eu blaen i fod yn hyderus o ran 'ymwahanu' oddi wrth eu gofalwyr a mynd allan i'r byd. Maen nhw'n gwybod y gallant fod ar wahân oddi wrth y sawl sy’n gofalu amdanynt am gyfnodau heb fod anffawd yn dod i'w rhan. Maen nhw'n gallu bod yn chwilfrydig ac archwilio'r byd ac felly dysgu a datblygu. Mae perthynas ymlyniad cynnar yn sail i ddatblygiad plentyn a'i allu i ffurfio perthynas gadarnhaol ac agos ag eraill. Maen nhw hefyd yn sylfaenol i ddatblygiad ein gallu ar gyfer rheoleiddio emosiynol, hunan reolaeth a datblygiad gwybyddol. Mae plant sydd ag ymlyniad da yn fwy tebygol o gyflawni llwyddiant:

• Cyfeillgarwch a sgiliau perthynas cymdeithasol da
• Ymddiriedaeth
• Empathi
• Llwyddiant academaidd
• Rheoliad emosiynol a hunanreolaeth o ymddygiad
• Gwytnwch
• Annibyniaeth
(Levy ac Orlans 1998)

Beth sy’n digwydd os nad yw ymlyniadau’n cael eu ffurfio’n effeithiol?

Gwyddom y bydd y plant hynny (PDG ai peidio) nad ydynt wedi cael y profiad o ymlyniad gwydn yn ystod eu blynyddoedd cynnar, ac yn gymwys yma, yn ystod eu bywydau ysgol, yn dod ar draws nifer o heriau yn ystod eu bywydau. Nid ydynt wedi cael oedolyn sy'n ‘cydweddu’ â'w hanghenion ac felly nid ydynt yn ‘ymatal’ eu hemosiynau. Mae'r rhainta wedi bod yn anghyson, a'r gofal yn anghyson, mae'n bosibl bod y plentyn wedi profi newyn eithafol, a phoen, esgeulustod emosiynol neu gorfforol, ofn a cham-drin (neu weld eraill yn cael eu cam-drin). Nid yw eu hymdrechion i gael ymlyniad diogel wedi bod yn llwyddiannus am ba bynnag reswm. Gallai hyn fod oherwydd bod gan eu gofalwyr eu problemau iechyd meddwl eu hun neu anawsterau cyffuriau neu alcohol. Mae'n bosib eu bod hwy wedi profi esgeulustod neu gam-drin fel plant a ddim yn gwybod sut i ymateb neu sut i fod yn brif ofalwr. Bydd y plant hyn yn dod ar draws llawer mwy o anawsterau wrth iddynt dyfu fyny achos nid ydynt wedi eu taclu o ran sicrwydd emosiynol sydd gan y rhan fwyaf o blant, sy'n arwain at lwyddiant mewn gwahanol feysydd. Mae'r tabl ar y dudalen nesaf yn gymorth i ddeall graddau'r anawsterau i'n disgyblion sydd ag anawsterau ymlyniad y byddwn yn eu gweld mewn ysgolion:

Maes effaith                 Enghreifftiau o sut mae hyn yn effeithio ar blant?                                      
Swyddogaeth weithredol

 Anawsterau â'r canlynol: 
✓ Dechrau, rheoli a gorffen tasg
✓ Cynllunio a threfnu'i hun
✓ Dal ati gyda thasgau
✓ Datrys problemau
✓ Ymdopi â rhwystredigaeth
✓ Monitro a gwerthuso cynnydd
✓ Rhagweld beth a allai ddigwydd
✓ Bod yn hyblyg ac addasu i newid yn ôl y gofyn
✓ Canolbwyntio, ffocysu a thalu sylw
✓ Bod yn aflonydd ac anesmwyth

 

Rheoliad emosiynol a hunan
ddelwedd

✓ Gorymateb i brofiadau a digwyddiadau
✓ Lefelau pryder wedi eu dwysáu
✓ Problemau gydag ataliad ymddygiad
✓ Ymwybyddiaeth wael o'r hunan
✓ Diffyg hunan ymwybyddiaeth

 

Perthynas a rhyngweithio ag
eraill

✓ Problemau datblygu a chynnal perthynas ag eraill
✓ Anawsterau'n derbyn a deall fod awdurdod gan eraill
✓ Ymddygiad cymdeithasol anaddas fel bod yn or-gyfeillgar, angen
rheoli, problemau dal llygad neu gyffwrdd, diffyg ymwybyddiaeth
o edifeirwch ac anawsterau gydag ymddiriedaeth.

 

A yw’n cael yr un effaith ar bob plentyn?


Nac ydy.

O waith Bwlb (1969/1988), a ddatblygwyd ymhellach gan Mary Ainsworth (1982), gwyddom bellach fod yna bedwar math o ymlyniad yn gyffredinol i'w gweld mewn plant. Os byddwn yn deall y rhain yna byddwn yn gallu gwneud rhagor i ddiwallu gwahanol anghenion plant a datblygu strategaethau effeithiol.

Y pedwar math o ymlyniad yw:

  •  Ymlyniad diogel ;
  •  Ymlyniad deuoliaeth teimlad - ymlyniad gwrthwynebol
  •  Ymlyniad osgoi, ac
  •  Ymlyniad anhrefnus

Mae'r tabl canlynol yn esbonio rhagor am y 3 math o ymlyniad diogel.

Beth allwn ni fel oedolion ei wneud?

Rydym ni'n deall bellach bod angen i ni fel addysgwyr sefydlu perthynas o ymlyniad gyda PDG er mwyn gwella dysgu a datblygu. Mae perthnasoedd sicr yn cydberthyn â gwell cyrhaeddiad academaidd, hunan reoleiddio a chymhwyster cymdeithasol. Felly ar gyfer rhai o'n disgyblion mwyaf heriol ac agored i niwed, un o'r strategaethau mwyaf llwyddiannus y gall ysgolion ei weithredu yw darparu oedolyn dynodedig i blentyn (Oedolyn Allweddol), sydd â'r rôl o ganolbwyntio ar y math hwn o berthynas gyda'r
plentyn yn ei ofal.

Ar gyfer ymyrraeth lwyddiannus gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion mae gwaith Heather Geddes (2006) yn darparu ffordd ddefnyddiol iawn o gysylltu Theori Ymlyniad â pherthnasoedd yn yr ystafell ddosbarth rhwng disgyblion, athrawon a gweithgareddau.

Fel bod dysgu'n digwydd, bydd angen i'r disgybl deimlo’n ddiogel ac ymddiried yn ei berthynas â'r athro. Ond hefyd mae angen iddynt allu bod ar wahân oddi wrth yr athro a gweithio'n annibynnol ar y dasg gan wybod y bydd yr athro yno ar ei gyfer os bydd angen. Yr her ar gyfer plant ag ymlyniad nad yw’n ddiogel/sicr yw y gall hyn fod yn anodd iddynt ac felly amharu ar broses y triongl dysgu.

Mae'r strategaethau a roddir uchod yn seiliedig ar y ddealltwriaeth o sut mae anawsterau PDG yn effeithio ar eu hymddygiad i'r berthynas hon ac felly sut y gellir eu helpu orau. Caiff hyn ei ddangos yn y diagram canlynol:

Pan fo ymlyniad diogel yn bresennol, mae gan blant ymddiriedaeth a hyder y byddant yn cael eu helpu pan fo'n angenrheidiol, felly yn gynnar yn ystod eu bywyd ysgol maen nhw'n gallu datblygu'r sgiliau ar gyfer bod yn ddysgwyr effeithiol. O ran plant nad ydynt wedi profi ymlyniad diogel, y mae'n llawer anoddach iddynt ymddiried yn yr athro ac felly caiff y Triongl Dysgu ei amharu yn y ffyrdd canlynol:

Patrwm yr ymlyniad      

Effaith ar ytriongl dysgu    

Deuoliaeth eimlad  – gwrthwynebol       

Mae'r plentyn yn canolbwyntio ar y berthynas athro - plentyn nid ar y plentyn - tasg felly mae'r plentyn yn ffocysu'n fawr ar gael sylw'r oedolyn

ymlyniad osgoi

Er mwyn osgoi risgio ymlyniad mae'r ffocws ar ran
plentyn - tasg y Triongl Dysgu.

ymlyniad anhrefnus

Nid yw'r PDG hyn yn ymgysylltu ag unrhyw ran o'r Triongl Dysgu

BYDDWCH YN OFALUS O’N DISGWYLIADAU: Y FFORDD GOCH A’R FFORDD LAS

Mae tuedd weithiau oddi wrth weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant sydd wedi bod, neu sy'n rhan o'r system gofal, i dderbyn bod bywydau plant a phobl ifanc wedi bod yn drawmatig iawn ac yn amodol ar nifer o heriau, ond yna i deimlo, cyn gynted ag y bo'r plentyn yn symud i sefyllfa o ofal sy'n fwy sicr a diogel y bydd patrymau ei ymddygiad yn newid yn gyflym i fod yn fwy derbyniol. Caiff hyn ei ddynodi yn y diagram isod gan y ffordd 'las' a'r ffordd 'goch'. Fodd bynnag, yn hytrach na bod yn 'ffordd gyswllt' uniongyrchol rhwng y ddau lwybr, y mae'n llawer yn fwy tebygol o fod yn ffordd ambr fel y dangosir yma, gyda llawer o droeon a rhwystrau ar hyd y daith. Ni all plant 'anghofio' dysgu ac atgofion emosiynol sydd wedi bod yn batrwm i'w bywydau ers blynyddoedd lawer, yn hytrach bydd eu taith yn un anodd a allai gymryd sawl blwyddyn iddynt gan ofyn am lawer o gefnogaeth.  

BLE I GAEL GWYBODAETH BELLACH AM YMLYNIAD

Fel y nodwyd eisoes uchod oddi fewn i'r bennod hon, dim ond trosolwg byr iawn yr ydym wedi gallu ei ddarparu o'r pwnc cymhleth ond diddorol hwn. Mae llawer o adnoddau ar gael bellach i'r rheini sydd am wybod rhagor.


Heather Geddes (2006). Attachment in the Classroom: The links between children’s early experience, well being and performance in school. Worth Publishing.

Kim Golding (2012). Observing children with attachment difficulties in school: a tool for identifying and supporting emotional and social difficulties in children aged 5-11. Jessica Kingsley: London. (Ceir fersiwn Blynyddoedd Cynnar o'r llyfr hwn hefyd).

Nicola Marshall (2014). The Teacher’s Introduction to attachment: Practical Essentials for Teachers, Carers and School Support Staff. Jessica Kingsley: London.