GWNEUD SYNNWYR O’R IAITH: PETH TERMINOLEG YR YDYCH YN DEBYGOL O’I CHLYWED.

Fel unrhyw faes gwaith arbenigol mae gan byd PDG ei iaith ei hun a all fod yn astrus i'r newydd-ddyfodiaid
i'r maes ei deall. Rydym wedi esbonio'r termau mwyaf cyffredin i chi.

Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG)

Mae plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn cynnwys y rheini y mae gan yr Awdurdod Lleol (ALl) un ai ofal
llawn drostynt neu ofal a rennir o ran cyfrifoldeb rhieni. Yn y rhan fwyaf o achosion mae hyn yn golygu eu
bod yn cael eu cymryd i ffwrdd oddi wrth ofal eu rhieni a bod llety amgen yn cael ei ddarparu ar eu cyfer
ynghyd â chefnogaeth oddi wrth asiantaethau ALl, elusennau neu sefydliadau annibynnol. Dim ond plant
hyd at 18 mlwydd oed fydd yn derbyn gofal, ni fyddant yn ei dderbyn y tu hwnt i'w pen blwydd yn 18 oed.

Plant Mewn Gofal (PmG)

Mae plant a phobl ifanc sydd mewn gofal yn dermau ar gyfer plant yng ngofal yr ALl. Bydd rhai ohonynt
yn amodol ar orchymyn cyfreithiol, er enghraifft Gorchymyn Gofal sy'n rhoi cyfrifoldeb a rennir â rhieni i'r
ALl. Bydd eraill yn derbyn gofal gyda chytundeb eu rhieni. Os nad oes unrhyw orchymyn cyfreithiol, mae
rhieni'n cadw cyfrifoldeb rhieni yn ôl y gyfraith.

Llety

Ambell waith, byddwch yn cael plant sy'n derbyn llety yn hytrach na gorchymyn gofal. Yn flaenorol buasent
yn cael llety o dan yr hyn a elwir yn Adran 20 Deddf Plant 1989. Erbyn hyn caiff ei alw'n Adran 76 yn sgil
deddfwriaeth newydd o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)(2014). Pan
fydd plentyn yn cael llety, nid yw hyn yn ganlyniad i achos llys, ond bydd yn digwydd am fod y plentyn yn
cael llety drwy gais neu mewn cytundeb â'r rhieni. Yn yr achos hwn, deil y rhieni ar y prif gyfrifoldeb rhieni
dros eu plentyn, ond mae'r Awdurdod Lleol yn parhau i fod â chyfrifoldeb fel rhiant corfforaethol.

Gorchymyn Gofal

Elfen gyfreithiol i blentyn yn cael ei osod o dan ofal yr ALl yw gorchymyn gofal. Y mae'n dynodi pwy sydd â
chyfrifoldebau rhainta dros y plentyn. Ambell waith bydd Gorchymyn Gofal Dros Dro gan blant oherwydd
bod y llys am gael gwybodaeth bellach cyn dod i benderfyniad. Dim ond os yw'n sicr o'r canlynol y gall llys
wneud gorchymyn gofal:
• bod y plentyn yn dioddef, neu'n debygol o ddioddef, niwed sylweddol;
• bod y niwed wedi ei achosi gan rieni'r plentyn;
• y byddai'r niwed yn cael ei achosi oherwydd bod gofal annigonol yn cael ei roi i'r plentyn yn y
dyfodol; neu
• bod y plentyn yn debygol o ddioddef niwed am ei fod y tu hwnt i reolaeth y rhieni.

Cynlluniau Gofal a Chefnogi

Bydd pob PDG yn cael Cynllun Gofal a Chefnogi sy'n dod â'r plentyn, ei deulu a' gweithwyr proffesiynol
ynghyd i gynllunio'i ofal a'i gefnogaeth. Caiff hwn ei adolygu'n rheolaidd. Mae'n cynnwys gwybodaeth
am ddeilliannau llesiant y plentyn ac anghenion gofal a datblygu a chynllun hir dymor ar gyfer magwraeth
ac addysg y plentyn. Cyrraedd sefydlogrwydd ym mhob agwedd o fywyd y plentyn yw'r peth allweddol
sy'n llywio'r cynllun. Bydd adolygiadau'n monitro cynnydd tuag at dargedau hir dymor a byr dymor. Caiff
y Cynllun Addysg Personol (gweler yn ddiweddarach) a chynllun iechyd eu cynnwys yn hyn.

Y ‘Rhiant Corfforaethol’

Mae gan awdurdodau lleol 'gyfrifoldeb corfforaethol' tuag at blant a phobl ifanc maen nhw'n gofalu
amdanynt, i sicrhau eu bod yn cael yr addysg orau bosibl. Rhaid i bawb fod yn bleidwyr proactif ac effeithiol,
gan sicrhau fod pobl ifanc yn eu gofal yn cael mynediad at, ac yn manteisio ar y cyfleodd sydd ar gynnig
iddynt. Rhaid iddynt weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill sydd â rôl o ran darparu addysg i
PDG.

Mae gwerthfawrogi a chefnogi addysg plant mewn gofal cyhoeddus yn cael ei ystyried yn un o'r cyfraniadau
pwysicaf y gall rhiant corfforaethol ei wneud i'w bywydau, am ei fod yn ymwneud â buddsoddi a gofalu
am eu dyfodol a chydnabod y gallai addysg fod yn basbort iddynt tuag at well cyfleodd mewn bywyd. Mae
Llywodraeth Cymru (2015b) yn dweud wrthym:


“Mae rhiant corfforaethol da yn ceisio cael yr un deilliannau i blant yn ei ofal ac sy’n gadael
ei ofal ag y byddai unrhyw riant da am ei gael i’w blant ei hun drwy sicrhau ei fod yn
gwneud popeth posibl i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd iddynt”.

Athro Dynodedig ar gyfer PDG

Caiff rôl y person hwn ei gynnwys mewn llawer mwy o fanylder yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.
Athro yw hwn, sy'n gorfod cael ei benodi gan gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir er mwyn hyrwyddo
cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal (PDG).

Ymylon Gofal

Caiff y term hwn ei ddefnyddio'n aml i ddisgrifio plant a phobl ifanc y mae gofalwyr gofal cymdeithasol
yn ystyried eu bod mewn perygl uchel o fynd i ofal (er enghraifft, oherwydd camdriniaeth, problemau
iechyd meddwl y rhieni neu fod y rheini yn cam-drin sylweddau). Y mae'n cynnwys plant hynny sydd ar
hyn o bryd yn byw gyda'u rhieni genedigol neu deulu gwreiddiol (fel llys-rieni) a'r rheini a fabwysiadwyd o
ofal ond sydd mewn perygl uchel o ddychwelyd i ofal. Mae deddfwriaeth newydd: Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diddymu Adran 17, "Plant Mewn Angen", gan roi'r cysyniad o
"Plant ag Anghenion Gofal a Chymorth" yn ei le.

Gofal Maeth

Yn gyffredinol, pan fydd plant y dod i ofal ALl, byddant yn cael eu rhoi mewn gofal maeth. Bydd hyn
mewn cartref preifat i deulu sy'n ofalwyr maeth cofrestredig, a allai fod yn perthyn i'r plentyn neu
berson ifanc neu beidio. Gall y plentyn aros gyda'r teulu am gyfnod byr iawn fel lleoliad brys, neu gall yr
arhosiad fod yn fyr dymor neu'n hir dymor, ond am nifer o wahanol resymau bydd gan rai plant nifer o
leoliadau gwahanol. Mae ymchwil yn dweud wrthym bod y fath sefyllfa yn gallu cymhlethu anawsterau
pobl ifanc.

Bydd gofalwyr maeth wedi bod drwy broses asesu trylwyr cyn cael eu derbyn fel gofalwyr maeth, yn cynnwys cymeradwyaeth gan banel maethu. Yna, caiff eu safle ei adolygu'n flynyddol. Gall gofalwyr maeth fod yn gweithio ar gyfer Awdurdod Lleol neu sefydliad maethu annibynnol.

  

Mae gan ofalwyr maeth eu Gweithiwr Cymdeithasol eu hunain sy'n weithiwr cymdeithasol goruchwyliol.


Gellir cael achlysuron pan na chaiff PDG eu gosod gyda gofalwyr maeth, ond yn hytrach maen nhw'n
symud i fyw i gartref gofal. Yn gyffredinol, mae hyn ar gyfer plant mewn addysg uwchradd ac maen nhw'n
byw mewn cartref gyda phobl ifanc eraill ble mae'r oedolion wedi eu hyfforddi ac yn meddu ar y sgiliau i
ddiwallu anghenion plant ifanc sy'n agored i niwed. Eto, fel â gofalwyr maeth, mae yna gartrefi gofal sy'n
cael eu rhedeg yn annibynnol yn ogystal â'r rheini a gaiff eu rhedeg gan yr ALlau.

Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA)

Rhaid i bob PDG gael SAA a enwyd, sy'n swyddog a benodwyd gan yr ALl, a benodwyd i gadeirio adolygiadau
i PDG a monitro perfformiad yr ALl mewn perthynas ag achos y plentyn. MAe'r SAA yn ymddwyn yn
annibynnol o'r ALl.

Oedolyn Allweddol(OA)

Oedolyn yw hwn y mae'r PDG yn gallu datblygu perthynas ymlyniad ag e. Mae'r OA yn gweithio'n galed i
adeiladu perthynas gadarnhaol a diogel gyda'r PDG fel ei fod yn dyfod yn rhywun y gellir ymddiried ynddo
ac sy'n gwneud iddo deimlo'n arbennig.

Gofal gan Berthynas

Mae hyn yn digwydd pan fydd gofal yn cael ei ddarparu gan oedolion sydd â pherthynas â neu gysylltiad
â'r plentyn neu berson ifanc, yn cynnwys mam-gu a thad-cu, brodyr a chwiorydd, modrybedd, ewythrod,
rhieni bedydd neu lys-fam-gu a llys-dad-cu. Caiff gofal gan berthynas ei asesu, ei gymeradwyo a'i gofrestru
a'i adolygu yn yr un ffordd â gofalwyr maeth.

Adolygiadau PDG

Mae Adolygiadau PDG yn gyfarfodydd ar gyfer adolygu Cynllun Gofal a Chymorth. Disgwylir i ysgolion
anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod hwn gyda Chynllun Addysg Personol wedi ei ddiweddaru sy'n cynnwys
crynodeb manwl o gynnydd. Mewn amgylchiadau eithriadol, pan na all rywun o'r ysgol fynychu'r cyfarfod,
dylid o leiaf gyflwyno adroddiad cynhwysfawr. Caiff adolygiadau eu cwblhau 28 niwrnod ar ôl llunio'r
cynllun cyntaf ac yna ar ôl egwyl 3 misol. Yn dilyn hynny, maen nhw'n digwydd bob 6 mis oni bai fod ur
angen am adolygiadau mwy rheolaidd.

Gadael Gofal

Bydd gorchymyn gofal a threfniadau gofal yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 18 oed a
gallai ddod i ben yn gynt os yw gorchymyn gofal y plentyn yn cael ei ryddhau neu fod y plentyn yn cael
ei fabwysiadu. Ar yr adeg hon, os bydd angen unrhyw gefnogaeth bellach, bydd timau Gwasanaethau
Cymdeithasol Oedolion yn cymryd cyfrifoldeb. Fodd bynnag, nid yw hyn yn awtomatig, a bydd ddim ond
yn digwydd os yw'r person ifanc ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Dylai parhau ag addysg neu
ddychwelyd ati bob amser aros fel opsiwn ar ôl i berson ifanc adael gofal. Mae PDG hefyd â'r hawl i
gefnogaeth oddi wrth gynghorwr personol mewn perthynas â'i addysg. Bydd Gyrfa Cymru a'r Tîm Gadael
Gofal (ôl-16 i RhCT) oddi fewn i'r awdurdod lleol yn gweithio ynghyd i ddarparu hyn.

Cyfrifoldeb Rhieni (CRh)

Caiff hwn ei ddiffinio fel a ganlyn:

“Yr holl hawliau, dyletswyddau, pwerau, cyfrifoldebau ac awdurdod sydd gan riant yn ôl y gyfraith mewn
perthynas â’r plentyn a’i eiddo”.

Mae'n bwysig iawn fod ysgolion yn gwybod pwy sydd â Chyfrifoldeb Rhieni ar gyfer eu holl ddisgyblion.
Gall gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth gael 'cyfrifoldebau dirprwyedig' ar gyfer rhai PDG, fel
eu bod yn gallu darparu caniatâd ar gyfer rhai pethau fel tripiau ysgol a ffotograffau. Pan fyddwch yn
ansicr o union natur y CRh a'r cyfrifoldebau dirprwyedig, sicrhewch fod hyn yn cael ei egluro gan weithiwr
cymdeithasol y plentyn.

Cynlluniau Lleoliad (CLl)

Mae'n ofynnol bod yr ALl yn llunio cynllun lleoliad ar gyfer PDG. Bydd hyn yn manylu ar sut fydd y lleoliad
yn diwallu gofynion y plentyn. Y mae'n rhan o'r Cynllun gofal a chymorth cyflawn.

Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig

Bydd rhai plant mewn lleoliad ble mae yna Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig mewn lle. Mae hwn yn
lleoliad sy'n gyfreithiol ddiogel i blant a phobl ifanc na allant fyw gyda'u rhieni genedigol, a ble mae
cyfrifoldebau rhainta wedi eu gosod yn gyfreithiol gyda gwarcheidwad arbennig. Yn yr achosion hyn, nid
ystyrir fod y plentyn neu berson ifanc yn Derbyn Gofal mwyach.

Ceiswyr Lloches Digwmni

Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn gyfrifol am gefnogai plant sy'n geiswyr lloches digwmni. Disgwylir iddynt
ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant sydd mewn angen oddi fewn i'w hardal, drwy ddarparu cefnogaeth
briodol o ran anghenion y plant hynny. Gall hyn gynnwys darparu ar gyfer cefnogaeth ariannol a llety fel
hostel neu lety a gefnogir. Mae Erthygl 22 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn
datgan y dylai ffoaduriaid gael yr un hawliau â phlant sydd wedi cael eu geni yn y wlad y maen nhw'n
ceisio lloches ynddi.

Rhestr o Acronymau 

AAA Anghenion Dysgu Ychwanegol
CADY Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
PMG Plant Mewn Gofal
PDG Plant sy'n Derbyn Gofal
AD ar gyfer PDG Athro Dynodedig ar gyfer PDG
SA Seicolegydd Addysg
GM Gofalwr Maeth
SAA Swyddog Adolygu Annibynnol
OA Oedolyn Allweddol
AA Awdurdod Lleol
PDG Plant sy'n Derbyn Gofal
Cydlynydd APDG Cydlynydd Addysg PDG
Tîm APDG Tîm Addysg PDG
CAP Cynllun Addysg Personol
CRh Cyfrifoldeb Rhieni
AAA Anghenion Addysgol Arbennig
GGA Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig
GC Gweithiwr Cymdeithasol
CA/CCD  Cynorthwyydd Addysgu/ Cynorthwywyr Cymorth Dysgu

 CYDLYNYDD ADDYSG PLANT SY’N DERBYN GOFAL (CAPDG)

Disgwylir bod gan bob ALl yng Nghymru ymarferydd arbenigol, (y CAPDG), a'i brif rôl yw ymddwyn
fel hyrwyddwr ar gyfer PDG a chodi ymwybyddiaeth i ddiwygio diwylliant ac agweddau sydd wedi'u
mewnblannu. Mae gan y CAPDG rôl arweiniol allweddol oddi fewn i'r Awdurdod Lleol ac mae dull
gweithredu fel tîm yn hanfodol. Mae llawer o gyfrifoldebau ganddynt, ond maen nhw'n cynnwys:

  • Sicrhau fod PDG yn cael y buddion bywyd mwyaf oddi wrth gyfleoedd addysg;
  • Gweithio tuag at nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg PDG;
  • Hyrwyddo addysg PDG a leolwyd yn yr ardal a thu allan iddi;
  • Gweithio â Chydlynwyr Addysg PDG mewn awdurdodau eraill mewn perthynas â lleoliadau allan o'r
    ardal a sefydlu trefniadau gweithio;
  • Datblygu a hyrwyddo modd o ymgysylltu neu feithrin perthynas â PDG a chael eu safbwyntiau am
    ddarpariaeth addysgol;
  • Pontio'r bwlch rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion a'r Awdurdod Addysg o ran AAA;
  • Darparu her yn ôl yr angen;
  • Lledaenu arferion da yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer aelodau etholedig, gofalwyr maeth, gweithwyr
    cymdeithasol, llywodraethwyr ysgolion ac athrawon dynodedig;
  • Sicrhau fod Cynlluniau Addysg Personol mewn lle a darparu arweiniad o ran eu gweithredu;
    Monitro cyrhaeddiad PDG, coladu dadansoddi gwybodaeth am berfformiad ar sail unigol neu
    gasgliadol;
  • Sefydlu a chynnal rhestr o athrawon dynodedig i bob ysgol yn ei awdurdod ac i bob ysgol y mae
    plant y tu allan i'r ardal yn ei mynychu; a
  • Mynychu Adolygiadau PDG fel sy'n briodol.

Y Cynllun Addysg Personol (CAP)

Mae'n ofyniad bod gan bob PDG gynllun unigol o'r enw'r CYNLLUN ADDYSG PERSONOL. Cynllun unigol
yw hwn sy'n gosod allan ei anghenion addysgol, targedu gwelliannau mewn cyrhaeddiad a deilliannau
addysgiadol ehangach. Gall plant ifanc gael Cynllun Addysg Personol sy'n dynodi cyfleoedd addysgol
priodol fel mynediad at feithrinfa neu ddarpariaeth arall o safon i'r blynyddoedd cynnar. Fodd bynnag, nid
yw hyn yn wir am bawb, a chaiff ei bennu gan yr ALl y mae'r PDG wedi ei leoli ynddo. Ar gyfer pobl hŷn,
gallai hwn fod yn Gynllun Addysg Personol Ôl-16 i gynorthwyo pontio a chefnogi wrth i'r bobl ifanc barhau
â'u haddysg a dysgu gydol oes.

Mae'r Cynllun Addysg Personol yn cydweddu Cynlluniau Gofal ond yn canolbwyntio’n benodol ar hyrwyddo
a blaenoriaethu addysg. Y dialog sy'n amgylchynu proses gynllunio'r Cynllun Addysg Personol a brofwyd i
fod yn allweddol i'w llwyddiant. Cyfrifoldeb y nifer o gyfranwyr' i'r Cynllun Addysg Personol yw cyfrannu at
a dadansoddi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo ac i ganolbwyntio ar atebion i hyrwyddo addysg, gan felly
osod disgwyliadau uchel ac ymatebion cyflym i fynd i'r afael â'r angen a ddynodwyd.

Mae'r Cynllun Addysg Personol yn ymddwyn fel cofnod o'r cynnydd yn erbyn anghenion datblygiadol ac
addysgiadol a amlygwyd (hir a byr dymor) ac mae'n darparu peth cofnod o atebolrwydd.

Byddwn yn edrych yn fwy manwl ar y Cynlluniau Addysg Personol yn yr adran 'systemau ac arferion ysgol gyfan', a sut i sicrhau eu bod yn ddogfennau effeithiol a defnyddiol.

 RHAI FFEITHIAU A FFIGURAU

Cymru

Ar ddiwedd Mawrth 2015 roedd 5615 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ychydig yn fwy o fechgyn
(3020) nac o ferched (2595). Roedd y rhan fwyaf o blant rhwng 10-15 oed. Mae'r canlynol yn dangos
dadansoddiad manwl yn ôl oedran:

Ffynhonnell : Mannay et al (2015)

Roedd y mwyafrif helaeth yn wyn (91.1%), roedd y gweddill yn gymysg o ran hil, Asiaid neu Asiaid Prydeinig, Du neu Ddu Prydeinig, neu grwpiau ethnig eraill.

O'r plant hyn, roedd gan nifer anghymesur ohonynt anghenion addysgol dynodedig neu anghenion addysgol arbennig. Yn 2011 yng Nghymru, roedd gan 21% o PDG ddatganiadau AAA o'u cymharu â 3% o'r holl blant.

Cyrhaeddiad PDG yng Nghymru

Deilliannau PDG o'i gymharu â'r holl blant yng Nghymru o fis Mawrth 2013: Ystadegau Cymru 2014-
2016 (yng Nghymru)

  Canran PDG sydd wedi
cyflawni’r deilliannau
disgwyliedig  
Pob disgybl
Pob disgybl  53%  83%
Dangosydd pwnc craidd CA3 36% 77%
TGAU (5 gradd A*-C neu gyfwerth) 13% 53%

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru 2015a

Mae'r patrwm dros nifer o flynyddoedd yn awgrymu fod y bwlch rhwng PDG a'r rheini nad ydynt yn y
system gofal wedi lledaenu ar draws daflwybrau addysgiadol myfyrwyr. Fel gyda Lloegr, mae canlyniadau
cyffredinol wedi gwella, ond mae canlyniadau wedi gwella hefyd ar gyfer plant nad ydynt yn derbyn gofal,
sy'n golygu nad yw'r bwlch cyrhaeddiad wedi cau ac yn ystod rhai o'r Cyfnodau Allweddol y mae wedi
lledaenu:

  • O'r 427 o ymadawyr gofal a gafodd eu pen blwydd yn 19 yn ystod y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2014, roedd 193 ohonynt yn NEET, sef 45% o'r grŵp hwn. Llywodraeth Cymru 2015a.
  • Nid oedd unrhyw gymwysterau o gwbl gan 29% o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal, o'i gymharu â 1% o'r boblogaeth nad oeddent yn PDG, Mannay et al (2015).

 NID YW MOR SYML Â BOD MEWN GOFAL YN UNIG

Fel y dynodwyd uchod mae'n wybyddus ers sawl blwyddyn fod gan PDG lai o ddeilliannau da na'r rheini
nad ydynt yn y system gofal: canfyddiad sydd yr un peth yn rhyngwladol ag ydyw yn genedlaethol. Ar
yr un pryd, bu'n glir nad dyma'r achos ar gyfer pob PDG. Yn ddiweddar, cafodd dwy astudiaeth bwysig
eu cwblhau sydd wedi ein helpu ni i ddeall yn well pa ffactorau sy'n cael yr effaith fwyaf negyddol ar
ddeilliannau. Y canfyddiad mwyaf diddorol a gafwyd o'r ymchwil yw ein bod ni’n gwybod po hiraf y mae
plentyn mewn gofal y gorau yw'r deilliant. Cafodd 33.4% o bobl ifanc sydd wedi bod yn y system gofal
ers 6 mis a mwy 5 A*-C TGAU ond cwympodd hyn i 20.5% petai PDG wedi bod yn y system am lai na 18
mis Mannay et al (2015). Felly nid bod mewn gofal ynddo'i hun yw'r broblem, eithr rhai o'r ffactorau sy'n
gysylltiedig â hynny.

Pam nad yw PDG yn gwneud cystal â'u cymheiriaid? Mae'r ffactorau mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym yn
gallu cael effaith groes ar ddeilliannau i PDG:

 

Drwy gydol yr adnodd hwn byddwn yn craffu ar rai o’r rhain â rhagor o fanylder i sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â’r ffactorau hynny sydd oddi fewn i’n rheolaeth fel addysgwyr, i’r graddau eithaf posibl.

Rôl pawb sy’n gweithio â PDG

Mae angen i ni gael disgwyliadau uchel iawn o'r holl weithwyr proffesiynol hynny mewn
lleoliadau addysg a fydd yn dod i gysylltiad â'n PDG:
✓ Sicrhau fod unrhyw PDG yn cael eu cefnogi'n sensitif a bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal ;
✓ Bod yn gyfarwydd â'r PDG ac ymateb yn briodol i geisiadau am wybodaeth i gefnogi cwblhau Cynlluniau Addysg Personol a dogfennaeth arall angenrheidiol fel rhan o'r cyfarfodydd adolygu;
✓ Ymateb yn gadarnhaol i gais PDG i fod y person a enwir y gallant siarad ag e pan fo'n teimlo fod hynny'n angenrheidiol;
✓ Cyfrannu at geisiadau am wybodaeth am gyrhaeddiad addysgiadol ac anghenion wnaed gan yr athro dynodedig i PDG, mor gyflawn a phrydlon ag sy'n bosibl;
✓ Fel yn achos pob plentyn, sicrhau nad oes unrhyw PDG yn cael ei stigmateiddio mewn unrhyw ffordd;
✓ Darparu hinsawdd gefnogol i alluogi PDG i gyflawni sefydlogrwydd oddi fewn i leoliad ysgol;
✓ Bod â disgwyliadau uchel am gyflawniad addysgiadol a phersonol PDG, a ✓ Hyrwyddo llesiant PDG yn gadarnhaol.